Gwynt a glaw

Gwynt a glaw ~ Wind and rain

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————


Fel rheol rydw i'n rhedeg yn gynnar yn y bore pan mae'r ffyrdd yn dawel ac ychydig iawn o bobl sydd o gwmpas, ond roedd gormod o law i mi redeg y bore yma felly rhedais i yn y prynhawn, trwy'r strydoedd, yn erbyn y gwynt.  Yn y cyfamser aeth Nor'dzin i redeg yn y parc.  Heddiw rhedodd hi bron 5km, cyflawniad mawr.

Dim ond ychydig ddyddiau rhedeg sydd ar ôl cyn i  ni fynd ar ein pererindod.  Rydyn ni'n meddwl ein bod yn weddol ffit nawr, yn gobeithio digon ffit.

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

I usually run early in the morning when the roads are quiet and there are very few people around, but there was too much rain to run this morning so I ran in the afternoon, through the streets, against the wind. Meanwhile Nor'dzin went running in the park. Today she ran nearly 5km, a great achievement.

There are only a few running days left before we embark on our pilgrimage. We think we're fairly fit now, hopefully fit enough.

Comments
Sign in or get an account to comment.