Amgylchiadau newidiol

Amgylchiadau newidiol ~ Changing circumstances

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Mae Daniel yn byw ar ei ben ei hun, ac roedden ni'n meddwl am ymweld ag e ar ei ddiwrnod i ffwrdd heddiw, ond pan ddysgon ni am ddifrifoldeb yr achosion firws newydd newidion ni ein meddwl a galwon Daniel ar Zoom yn lle. Pan mae'r amgylchiadau'n newid, rhaid i'n cynlluniau newid hefyd. Rydyn ni'n meddwl bod  rhaid i ni gadw ein hunain, a phawb arall, mor ddiogel â phosibl, a  dim ond mynd allan am bethau hanfodol. Mae Daniel yn deall, ac roedd a'n dda i sgwrsio gyda fe. Mewn gwirionedd buon ni'n siarad am fwy nag awr ac roedd e'n bron cystal â bod gyda'n gilydd. Rydyn ni'n gobeithio y byddwn ni'n gallu bod gyda'n gilydd go iawn yn y dyfodol agos.

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Daniel lives alone, and we thought of visiting him on his day off today, but when we learned about the severity of the new virus outbreaks we changed our mind and called Daniel on Zoom instead. When circumstances change, our plans must change too. We think we have to keep ourselves, and everyone else, as safe as possible, and just go out for essentials. Daniel understands, and it was good to talk to him. We actually talked for over an hour and he was almost as good as being together. We hope we will be able to really be together in the near future.

Comments
Sign in or get an account to comment.