Goleuadau yn y glaw

Goleuadau yn y glaw ~ Lights in the rain

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Roedd heddiw yn ddiwrnod prysur.  Rydw i wedi ceisio clirio fy nesg - mae e wedi cael ei gladdu o dan lawer o bapurau ac rydw i'n ceisio sganio nhw i gyd. Mae'n cymryd llawer o amser. Hefyd, ysgrifennais i ein cardiau Nadolig, wel y rhan fwyaf ohonyn nhw.  Yn y cyfamser, roedd Nor'dzin yn gwau rhai o anrhegion Nadolig, a gwneud bara a jam hefyd. Weithiau rydyn ni wedi blino ar ddiwedd y dydd, ond does dim ots pan rydyn ni'n teimlo rydyn ni wedi cyflawni rhywbeth.

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Today was a busy day. I've tried to clear my desk - it's buried under a lot of papers and I'm trying to scan them all. It is time consuming. Also, I wrote our Christmas cards, well most of them. In the meantime, Nor'dzin was knitting some Christmas presents, and making bread and jam too. Sometimes we are tired at the end of the day, but it doesn't matter when we feel we have achieved something.

Comments
Sign in or get an account to comment.