Peintio mewn olew

Peintio mewn olew

Peintio mewn olew ~ Painting in oils

“When I adjust materials of different kinds to one another, I have taken a step in advance of mere oil painting, for in addition to playing off color against color, line against line, form against form, etc., I play off material against material, for example, wood against sackcloth.”
― Kurt Schwitters

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Ar ôl uchelfannau creadigrwydd ysbrydoledig o ‘Y Noson Serennog’ ddoe, roeddwn i'n ôl ar y to gyda phaent o fath gwahanol heddiw. Rydyn ni'n dal yn ceisio datrys y broblem gyda'r to sy'n gollwng a nawr mae paent diddorol gyda ni. Mae'r paent hwn yn cynnwys ffibrau (diolch am yr awgrym, @welshmaid) a'r syniad ydy bod y ffibrau yn gallu cau unrhyw fylchau. Gwnes i baentio llinell ar draws yr uniad yn y to. Mae'n fel paentio gyda hufen iâ, neu adeiladu rhwymyn yn raddol. Rydw i'n meddwl y bydda i'n rhoi côt arall ymhen wythnos. Gawn ni weld os mae'n gweithio...

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

After the inspired heights of creativity of 'Y Noson Serennog' yesterday, I was back on the roof with a different kind of paint today. We are still trying to solve the leaky roof problem and now we have some interesting paint. This paint contains fibres (thanks for the suggestion, @welshmaid) and the idea is that the fibres can close any gaps. I painted a line across the joint in the roof. It's like painting with ice cream, or gradually building a bandage. I think I'll apply another coat in a week. Let's see if it works...

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Disgrifiad (Cymraeg): Tun paent a'i gaead
Description (English): A paint tin and its lid

Comments
Sign in or get an account to comment.