Daily practice

Os dych chi eisiau llwyddo gydag unrhywbeth - unrhywbeth o gwbl - dw i'n meddwl taw'r ffordd orau yw gwneud rhywbeth amdano fe bob dydd. Gallech chi ymarfer myfyrdod am ddeg munud, tynnu un llun, ysgrifennu un frawddeg yn Gymraeg... Mae tipyn bach bob dydd yn gwneud gwahaniaeth. Dyma Suzanne. Mae ei swydd hi i roi ysbrydoliaeth i bobl ffeindio ffordd i ddefnyddio Cymraeg yn eu bywyd bob dydd. Pan glywodd hi fy mod i'n postio llun bob dydd, awgrymodd hi y gallwn i ysgrifennu brawddeg amdano fe yn Gymraeg. Dechreuais i ym mis Mawrth 2013. Mae rhywbeth bach fel hyn yn fy helpu fi i deimlo mwy cyfarwydd gyda'r iaith.


If you want to achieve anything - anything at all - I think that the best way is to do something about it every day. You could practice meditation for ten minutes, take one photograph, write one sentence in Welsh... A little bit every day will make a difference. This is Suzanne. It is her job to inspire people to find a way to use Welsh in their everyday life. When she heard that I post a picture every day, she suggested that I could write a sentence about it in Welsh. I started in March 2013. Something small like this helps me feel more familiar with the language.

~~~
Old photograph: Montana Deer

Comments
Sign in or get an account to comment.