Haf Bach Mihangel yn 'Barrybados'

Cawson ni 'Haf Bach Mihangel' heddiw.


Aethon ni ymweld â ffrindiau yn Ynys y Barri.  Roedd y tywydd yn braf iawn - yn boeth ac yn heulog. Roedd e'n syndod am ddiwrnod ym mis Hydref.  Mae'r bobl leol yn galw'r lle 'Barrybados' a nawr dw i'n gwybod pam.

Es i i Ynys y Barri pan ro'n i'n ifanc, hanner ganrif yn ôl.  Mae fy nghof am le brwnt a swnllyd ond heddiw roedd e'n hyfryd iawn. Dw i'n meddwl efallai fy mod i wedi colli cyfleoedd i ymweld â'r Ynys dros y blynyddoedd oherwydd o fy nghofion.

Cerddon ni i lawr o dŷ ein ffrindiau i'r arfordir ac yn dilyn y llwybr o gwmpas tan welon ni'r traeth.  Prynon ni sglodion neis iawn yn 'Boofys' yn y pafiliwn, cyn parhau ein cerdded i'r hen harbwr.

Roedd ychydig o gymylau yn yr awyr of yn bennaf roedd yr awyr yn glir ac yn las gyda haul poeth.  Dw i ddim yn gallu cofio diwrnod mor boeth ym mis Hydref.  Hoffon ni Ynys y Barri yn fawr iawn ac dw i'n siŵr byddwn ni yn ymweld eto.


~~~

We had an 'Indian Summer' today.

We went to visit friends at Barry Island. The weather was really nice - hot and sunny. It was surprising for a day in October. The locals call the place 'Barrybados' and now I know why.

I went to Barry Island when I was young, half a century ago. My memory was a dirty and noisy place but today it was very nice. I think I might have missed opportunities to visit the island over the years because of my memories.

We walked down from our friend'  house to the coast and followed the path around until we saw the beach. We bought very nice chips at 'Boofys' in the pavilion, before continuing our walk to the old harbor.

There were a few clouds in the sky but sky was mostly clear and blue with a hot sun. I can't remember a day so hot in October. We liked Barry Island very much and I'm sure we'll visit again.

Comments
Sign in or get an account to comment.