Yr un hen le

Yr un hen le ~ The same old place

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Os rydw i'n gallu codi digon cynnar rydw i'n trio rhedeg am adeg hirach bob tro dwi'n mynd allan.  Mae'n cymryd llawer o amser nawr fel rydw i'n mynd yn agos at dair awr teithiau rhedeg. Rydw i eisiau rhedeg pellter hanner marathon o leiaf unwaith cyn rydw i'n rhy hen neu gael damwain neu rywbeth... Heddiw rhedais i un deg naw cilometr.  Rydw i'n meddwl dyna fi terfyn ar hyn o bryd. Gawn ni weld.

Rydw i'n dod yn ôl i'r tŷ mewn amser da i gael brecwast gyda Nor'dzin. Ar ôl brecwast heddiw aethon ni allan i'r siopau yn bennaf i brynu ffrwythau a llysiau a hefyd prynu cymysgedd cacennau siocled o 'Iechyd Da'. Maen nhw'n gwerthu cymysgedd cacen mewn unrhyw faint, felly prynon ni llawer. Gwnaeth Nor'dzin cacen yn barod i ddathlu pen-blwydd Richard. Byddwn ni mynd i weld Richard a theulu ddydd Sul - rydyn ni'n siŵr bydd bawb yn mwynhau'r gacen.


————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

If I can get up early enough I try to run for longer every time I go out. It's very time consuming now as I'm getting close to three hour runs. I want to run half marathon distance at least once before I'm too old or have an accident or something... Today I ran nineteen kilometers. I think that's my limit at the moment. We'll see.

I come back to the house in good time for breakfast with Nor'dzin. After breakfast today we went out to the shops mainly to buy fruit and vegetables and we also bought chocolate cake mix from 'Good Health'. They sell cake mix in any size, so we bought a lot. Nor'dzin made a cake ready to celebrate Richard's birthday. We're going to see Richard and family on Sunday - we're sure everyone will enjoy the cake.

Comments
Sign in or get an account to comment.