Parciau a gerddi

Parciau a gerddi ~ Parks and gardens

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Es i am rediad yn gynnar yn y bore.  Roedd  rhywbeth gyda fi i'w gymryd i'r Rhath felly roeddwn i'n meddwl basai fe'n dda i gynnwys y Rhath yn fy rhediad. Roedd yn daith rownd 10k.  Sylwais i'r bod pob tŷ gyda goleuadau ymlaen yn cael babi hefyd, fel arfer yn yr ystafell ffrynt yn gwylio'r teledu gyda rhiant. Mewn pob tŷ arall, dim goleuadau o gwbl.

Yn y bore ar ôl brecwast gweithiais i am dipyn yn yr ardd.  Rydw i'n tacluso'r canghennau coeden yr ydw i wedi ei dorri yn gynharach yn yr wythnos.  Doeddwn i ddim eisiau gwneud gormod o waith felly gweithiais i am tuag awr cyn amser cinio.

Ar ôl amser cinio, aethon ni i Barc y Mynydd Bychan, un o’n hoff barciau. Roedd e'n edrych yn hyfryd yng ngolau'r prynhawn hwyr. O dro i dro byddai un ohonon ni'n stopio i dynnu ffotograff.  Mae'n ddiddorol bob tro i weld beth mae'r person arall wedi'i weld.  Dyma pam rydw i'n hoffi mynd am 'gerdded ffoto' gyda phobol, neu hyd yn oed dim ond edrych ar ffotograffau pobol eraill, i werthfawrogi beth maen nhw wedi sylwi.


————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

I went for an early morning run. I had something to take to Roath so I thought it would be good to include Roath in my run. It was a 10k round trip. I noticed that every house with lights on had a baby too, usually in the front room watching TV with a parent. In all other houses, no lights at all.

In the morning after breakfast I worked for a while in the garden. I'm tidying the tree branches I cut earlier in the week. I didn't want to do too much work so I worked for about an hour before lunch.

After lunch, we went to the Heath Park, one of our favorite parks. It looked beautiful in the late afternoon light. Occasionally one of us would stop to take a photo. It's always interesting to see what the other person has seen. This is why I like going for a 'photo walk' with people, or even just looking at other people's photos, to appreciate what they've noticed.

Comments
Sign in or get an account to comment.