Y tŷ lle cefais i fy ngeni

Y tŷ lle cefais i fy ngeni ~ The house where I was born

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Cawson ni un diwrnod arall gyda Sam ddydd Llun - am y tro olaf efallai oherwydd mae'n bosibl bydd e'n mynd yn ôl i’r ysgol meithrin nes bydd ei ysgol ar agor. Cawson ni amser dymunol gyda Sam, fel arfer, gyda theganau adeiladu ac arlunio. Gwnaethon ni adeiladu ffau yn y lolfa gyda chadeiriau a blancedi - roedd lle gwych i gael byrbryd canol bore.  Cyn amser cinio cerddon ni i fyny i'r parc ger cyfnewidfa Gabalfa. Cerddon ni heibio'r tŷ lle cefais i fy ngeni ac roedd rhaid i mi dynnu ffotograff o'r Sam y tu allan y tŷ hwn. (Efallai y bydd diddordeb yn y dyfodol - pwy a ŵyr). Rydyn ni'n meddwl y byddwn ni'n colli gweld Sam ddyddiau Llun ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weld e (a Zoe hefyd) yn ystod y gwyliau ysgol.

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

We had another day with Sam on Monday - maybe for the last time because he might be going back to nursery until his school is open. We had an enjoyable time with Sam, as usual, with construction toys and drawing. We built a den in the lounge with chairs and blankets - it was a great place for a mid-morning snack. Before lunch we walked up to the park near the Gabalfa interchange. We walked past the house where I was born and I had to take a photograph of Sam outside this house. (Posterity may be interested - who knows). We think we will miss seeing Sam on Monday and we look forward to seeing him (and Zoe too) during the school holidays.

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Comments
Sign in or get an account to comment.