Croeso i'r Peiriant

Croeso i'r Peiriant ~ Welcome to the machine

“I am certain that a Sewing Machine would relieve as much human suffering as a hundred Lunatic Asylums, and possibly a good deal more,”

—Margaret Atwood

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Rydw i'n gwybod dim byd am wnïo. Rydw i'n meddwl defnyddiais i beiriant wnïo fy mam hanner cant o flynyddoedd yn ôl ac rydw i wedi defnyddio nodwydd ac edau o dro i dro i wnïo botwm ar grys, ond dyna derfyn fy mhrofiad. Ond rydw i wedi gwylio 'The Great British Sewing Bee', felly mae'n rhywbeth, am wn i.

Felly roedd heddiw antur. Rydw i'n gwneud gwregys myfyrio (sGom thag, སྒོམཐག, yn Tibeteg). Mae'n wregys sy'n mynd o gwmpas eich cefn a'ch pengliniau i ddarparu cefnogaeth pan rydych chi'n eistedd ar glustog am gyfnodau hir. Rhaid i mi wnïo'r deunydd i mewn dolen sy'n ffitio fy nghorff. Mae'n rhywbeth eithaf syml, rydw i'n meddwl, ond mae'n ddigon cymhleth i fi. Yn ffodus mae cyngor arbennig Nor'dzin gyda fi, a hen beiriant gwnïo â llaw sy'n mynd ar fy nghyflymder.

Mae'n hwyl, ac mae fy llenwi gyda gwerthfawrogiad o'r bobol sy'n gallu gweithio hud gyda'u peiriannau.


————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

I know nothing about sewing. I think I used my mother's sewing machine fifty years ago and I have occasionally used a needle and thread to sew a button on a shirt, but that's about the end of my experience. But I've watched 'The Great British Sewing Bee', so it's something, I suppose.

So today was an adventure. I am making a meditation belt (sGom tag, སྒོམཐག, in Tibetan). It's a belt that goes around your back and knees to provide support when you sit on a cushion for long periods. I have to sew the material into a loop that fits my body. It's something quite simple, I think, but it's complicated enough for me. Fortunately I have Nor'dzin's special advice, and an old manual sewing machine that goes at my speed.

It's fun, and it fills me with appreciation for the people who can work magic with their machines.

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Comments
Sign in or get an account to comment.