Diwrnod glawog, diwrnod gwaith

Diwrnod glawog, diwrnod gwaith ~ Rainy day, working day

Roedd y tywydd heddiw yn wahanol â ddoe. Llawer o law a dim haul o gwbl.  Ond roedd heddiw diwrnod i wneud mwy o waith o gwmpas y tŷ. Yn ffodus, neu yn anffodus, roedd un o'r mân swyddi i drwsio twll lle roedd y glaw yn dod i mewn y gegin.  Roedd rhaid i mi ddringo trwy ffenest yr ystafell gwely ar y to fflat, yn fy nillad gwrth-ddŵr, i drio ffeindio'r twll.  Rydw i'n meddwl y roedd e'n ddiwrnod da i drwsio twll oherwydd y gallwn ni gweld os roeddwn i wedi bod yn llwyddiannus. Roedd hi'n dal yn bwrw glaw, ond does dim diferyn yn y gegin. Hwre, pa arwr. Roedd gweddill y swyddi yn llai gwlyb ond yr un mor llwyddiannus. Gweithion ni drwy'r diwrnod cyfan, ac rydw i'n meddwl y bydd e'n fwy o waith yfory. Mae yna rywbeth i'w wneud bob tro.

Today's weather was different from yesterday. Lots of rain and no sun at all. But today was a day to do more work around the house. Fortunately, or unfortunately, one of the odd jobs was to repair a hole where the rain was coming in the kitchen. I had to climb through the window of the bedroom on the flat roof, in my waterproof clothes, to try to find the hole. I think it was a good day to repair a hole because we could see if I had been successful. It was still raining, but there was no drip in the kitchen. Hooray, what a hero. The rest of the jobs were less wet but equally successful. We worked through the whole day, and I think there will be more work tomorrow. There is always something to do.

Comments
Sign in or get an account to comment.