Glaw oer, Cawl poeth

Glaw oer, Cawl poeth ~ Cold rain, hot soup

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Unwaith eto, roedd y tywydd yn wlyb ac yn oer.  Roeddwn i'n hapus i gyrraedd adre i dŷ twym. Rydyn ni'n bwyta llawer o gawl y dyddiau hyn. Mae peiriant cawl gyda ni ac mae'n gwneud cawl o lysiau ffres mewn hanner awr.  Mae'r cawl yn wastad poeth iawn a heddiw ffeindiais i allan pa mor boeth. Roedd damwain gyda fi a gwnes i dywallt tipyn bach o gawl ar fy arffed.  Fy nghyngor? Cymerwch eich trowsus i ffwrdd cyn gynted â phosib. Gwnes i eistedd am oriau gyda rhew ar fy nghoes ac rydw i'n meddwl bydd popeth yn iawn. Roedd gweddill y cawl yn flasus iawn.

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Once again, the weather was wet and cold. I was happy to get home to a warm house. We eat a lot of soup these days. We have a soup machine and it makes a fresh vegetable soup in half an hour. The soup is always very hot and today I found out how hot. I had an accident I spilled a bit of soup on my lap. My advice? Take your trousers off as soon as possible. I sat for hours with ice on my leg and I think everything will be fine. The rest of the soup was delicious.

Comments
Sign in or get an account to comment.