tridral

By tridral

Ymhlith y malurion

Ymhlith y malurion ~ Amongst the debris

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Rydw i wedi bod yn meddwl am y gair 'normal', oherwydd bod pobl wedi siarad am 'dychwelyd i normal'. Dydw i ddim yn meddwl normal yn bodoli, nid am fwy nag eiliad. Mae popeth yn newid trwy'r amser.  Mae 'normal' yn yr eiliad hon yn wahanol i 'normal' yn yr eiliad nesaf. Doedd beth yn 'normal' yn y yn y 19eg ganrif ddim yn normal yn y 20fed ganrif, ayyb. Beth rydyn ni wedi gweld eleni yw newid cyflym, byddai pethau wedi newid beth bynnag - ond yn arafach. Weithiau rydw i'n meddwl bod os rydyn ni'n  anghofio am y syniad o 'normal', ac eithrio yn y foment, rydyn ni'n fwy rhydd i newid gydag amgylchiadau.dau.

Does dim car gyda ni nawr - dyna'r 'normal newydd' - felly roedd rhaid i ni gario cadeiriau a llinell golchi cylchdroi mewn tacsi.  Roedd e'n teimlo tipyn rhyfedd i stwffio llinell golchi mewn tacsi, ond rydw i'n meddwl y byddwn ni'n dod i arfer â phethau o'r fath. A dweud y gwir mae'n teimlo fel beth fyddai'n bywyd normal yn India neu Nepal, lle llai o bobol yn berchen ceir.  Felly maen nhw'n arfer cario mwy o bethau mewn tacsi, bws neu ar feic.  Dyna 'normal' yna.

Felly treulion ni awr yn rhwygo gordyfiant diangen allan o ardd Daniel. Mae'n barod nawr i blannu mwy o flodau.  Rydyn ni'n meddwl y bydd e'n edrych yn dda iawn y flwyddyn nesa. Mae rhaid i ni dacluso'r ardd nawr, felly rydyn ni'n meddwl am fynd â llosgydd bach i le Daniel - rydyn ni'n meddwl rydyn ni'n gallu cario fe ar feic. Dyma 'normal' nawr.

Ar ôl gweithio ar yr ardd, aeth Daniel â ni i fwyty yn y dre. Mae e'n byw ger y dre felly roedd e'n daith cerdded fyr. Roedden ni'n gwisgo masgiau ers i ni gerdded.  Roedd rhaid i ni fewngofnodi yn y bwyty - rhag ofn bod angen iddyn nhw ein holrhain.  Cawson ni bryd o fwyd Indian blasus iawn.  Roedd rhyfeddol treulio amser gyda Daniel ac yn gweld e ymgartrefu yn ei le newydd.


————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

I've been thinking about the word 'normal', because people have talked about 'returning to normal'. I don't think normal exists, not for more than a second. Everything changes all the time. 'Normal' in this moment is different from 'normal' in the next moment. What was 'normal' in the 19th century was not normal in the 20th century, etc. What we've seen this year is rapid change, things would have changed anyway - but slower. Sometimes I think that if we forget about the idea of 'normal', except at the moment, we are more free to change with circumstances.

We don't have a car now - that's the 'new normal' - so we had to carry chairs and a rotating washing line in a taxi. It felt a bit strange to stuff a washing line in a taxi, but I think we'll get used to it. In fact it feels like normal life in India or Nepal, where fewer people own cars. So they usually carry more things by taxi, bus or bike. That's 'normal' there.

So we spent an hour ripping out unwanted overgrowth from Daniel's garden. it is ready now to plant more flowers. We think it'll look really good next year. We need to tidy up the garden now, so we're thinking of taking a small incinerator to Daniel's place - we think we can carry it by bike. This is 'normal' now.

After working on the garden, Daniel took us to a restaurant in town. He lives near town so it was a short walk. We wore masks since we walked. We had to sign in to the restaurant - in case they needed to track us. We had a very tasty Indian meal. It was wonderful to spend time with Daniel was and see him settled into his new place.

Comments
Sign in or get an account to comment.