Ystyriwch lili’r maes

Ystyriwch lili’r maes ~ Consider the lilies of the field

A phaham yr ydych chwi yn gofalu am ddillad? Ystyriwch lili’r maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt nac yn llafurio nac yn nyddu: / Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn.
-- Mathew 6:28/6:29


Consider the lilies of the field, how they grow; they toil not, neither do they spin: / And yet I say unto you, That even Solomon in all his glory was not arrayed like one of these.
-- Matthew 6:28/6:29

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Aethon ni am dro o gwmpas ein maes cyfagos. Mae'n ddim ond darn o dir sbâr. Oherwydd roedd e'n gorsiog doedden nhw ddim yn gallu adeiladu yna pan roedden nhw'n adeiiladu'r tai yn yr ardal- ac rydw i'n meddwl ein bod ni'n ffodus o'i gael. Mae'n driongl gyda thai yn cefnu arno ar bob ochr, ac weithiau mae'r bobol yn tyfu blodau yn y maes, y tu allan eu gerddi nhw - roedd y lili hon yn un o'r blodau hynny. Mae'r maes hwn yn lle dymunol i gerdded, ond yn bennaf yn yr haf, pan dydy e ddim yn llawn mwd.

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

We went for a walk around our nearby field. It's just a spare piece of land. Because it was boggy they couldn't build there when they were building the houses in the area - and I think we're lucky to have it. It's a triangle with houses backing it on all sides, and sometimes the people grow flowers in the field, outside their gardens - this lily was one of those flowers. This area is a pleasant place to walk, but mainly in the summer, when it's not full of mud.

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Comments
Sign in or get an account to comment.