Pwmpen wedi'i gadael

Pwmpen wedi'i gadael ~ Abandoned pumpkin

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Es i i'r dre'r bore 'ma i gael lens wedi'i drwsio ac yn adnewyddu fy mhàs bws. Roeddwn i wedi gollwng fy nghamera ar lawr yn Bhutan a heddiw oedd y diwrnod cyntaf fy mod i wedi teimlo digon dda i fynd i'r dre. Ar y ffordd dy fyny i'r arhosfan bysiau, gwelais i'r bwmpen wedi'i gadael hon.  roedd yna lawer o sgil yn y cerfio ac roedd yn drueni bod y bwmpen newydd ei gadael mewn lôn. Gallen nhw fod wedi gwneud cawl ... Beth bynnag.

Ar ôl gadael fy lens gyda Cameraland ac yn ymweld â'r llyfrgell gyda'r bàs bws, gwnes i ymuno â Nor'dzin i edrych ar ôl Zoë tra roedd Richard wedi cael cyfweliad. Ces i destun gan Cameraland i ddweud bod fy lens wedi cael ei thrwsio, felly es i yn ôl i'r dre i gasglu fy lens cyn mynd adre.

Roedd diwrnod eitha brysur ac arwydd fy mod i'n dod yn well. Gobeithio.

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

I went to town this morning to get a lens repaired and renew my bus pass. I had dropped my camera down in Bhutan and today was the first day that I felt well enough to go to town. On the way up to the bus stop, I saw this abandoned pumpkin. there was a lot of skill in the carving and it was a shame that the pumpkin had just been left in a lane. They could have made soup ... Whatever.

After leaving my lens with Cameraland and visiting the library with the bus pass, I joined Nor'dzin to look after Zoë while Richard had an interview. I got a text from Cameraland to say that my lens had been repaired, so I went back to town to collect my lens before going home.

It was quite a busy day and a sign that I was getting better. Hopefully.

Comments
Sign in or get an account to comment.